Beth yw'r podlediadau
Dywedodd miloedd o bobl ledled Cymru wrthym sut olwg sydd ar yr iechyd a'r gofal cymdeithasol maen nhw ei eisiau - nawr rydym yn mynd â'r hyn a wyddom at y bobl a'r sefydliadau a all wneud i newid digwydd. Yn gyfres un o Mewn Sgwrs â…, y podlediad newydd gan Llais, mae pobl â dylanwad a phrofiad byw ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn siarad â'r Prif Swyddog Gweithredol Alyson Thomas a'r Cadeirydd yr Athro Medwin Hughes am yr hyn sy'n gweithio, yr hyn sydd ddim, a sut y gall pethau wella.




